Yolk Recruitment Ltd
Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd
Job Location
Wales, United Kingdom
Job Description
Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd Mae Adnodd yn gorff hyd braich Llywodraeth Cymru sy’n goruchwylio ac yn cydlynu’r gwaith o ddarparu adnoddau addysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg i gefnogi ac ysbrydoli wrth ddysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru. Gweledigaeth Adnodd yw bod gan bob dysgwr ac ymarferwr, beth bynnag fo’u cefndir, hawl i gael adnoddau addysgol o ansawdd uchel a fydd yn tanio eu dychymyg, yn cefnogi eu llesiant, ac yn annog cariad gydol oes at ddysgu. Y Cyfle Fel y Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio’r dirwedd adnoddau addysgol yng Nghymru. Byddwch yn arwain ymdrechion i fapio’r ddarpariaeth a’r galw presennol, ac ar ddarparu rhaglen gomisiynu a sicrhau ansawdd effeithiol i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau a’r cyfleoedd y cytunwyd arnynt. Byddwch yn sicrhau bod adnoddau’n gynhwysol, yn hygyrch ac yn adlewyrchu cymunedau a dysgwyr amrywiol Cymru. Fel rhan o dîm deinamig, traws-swyddogaethol, byddwch yn helpu i ddatblygu casgliad cenedlaethol arloesol sy’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru ac yn diwallu anghenion ymarferwyr a dysgwyr. Cyfrifoldebau Arwain y gwaith cynllunio strategol, comisiynu a sicrhau ansawdd ar adnoddau addysgol dwyieithog. Rheoli cyllidebau a staff, gan fanteisio i’r eithaf ar ddefnyddioldeb ac effaith adnoddau’r sefydliad. Goruchwylio’r gwaith o fapio’r ddarpariaeth bresennol, nodi anghenion y dyfodol, a rheoli’r gwaith o ddatblygu adnoddau o’r cam cysyniad i’r cam cyflawni. Gweithio’n agos ag ymarferwyr, cyflenwyr, crewyr cynnwys a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod adnoddau’n diwallu anghenion yr ystafell ddosbarth a blaenoriaethau cenedlaethol. Monitro ac adrodd ar weithgareddau comisiynu a sicrhau ansawdd yn erbyn amcanion strategol, gan ddefnyddio data ac adborth defnyddwyr i fesur effaith a gwella prosesau’n barhaus. Hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd ym mhopeth y mae Adnodd yn ei gomisiynu. Am Beth Ydyn ni’n Chwilio Profiad amlwg o gomisiynu neu ddatblygu adnoddau addysgol neu debyg. Sgiliau effeithiol o ran rheoli cyflenwyr a rhanddeiliaid. Profiad o arwain prosiectau neu reoli timau (mae profiad o reoli llinell yn ddymunol). Meddwl strategol, cynllunio prosiect a chynllunio gweithredol. Dealltwriaeth o addysg ddwyieithog a datblygu adnoddau, gan gynnwys hygyrchedd. Yn frwd dros degwch mewn addysg a’r iaith Gymraeg. Yn rhagweithiol mewn tîm ac yn rhoi sylw i’r manylion, gydag ymrwymiad i arloesi ac ansawdd. Mae sgiliau Cymraeg ar lefel ganolradd yn hanfodol. Bydd Adnodd yn helpu i ddatblygu rhagor o sgiliau Cymraeg. Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfatebol. Tâl 37.5 awr yr wythnos – amgylchedd gweithio hyblyg Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus Gwyliau ychwanegol - Dydd Gŵyl Dewi Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil Amrywiaeth o fuddion ychwanegol I Wneud Cais Yolk Recruitment yw partner recriwtio penodol Adnodd ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk drwy ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd ei hun. I wneud cais, cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol (hyd at 500 gair) i Hannah Welfoot yn Yolk Recruitment. Dyddiad Cau: Dydd Llun 2 Mehefin Dyddiad y Cyfweliad a’r Asesiad: Dydd Gwener 13 Mehefin Lleoliad y Cyfweliad a’r Asesiad: Tramshed Tech, Stryd Pendyris, Caerdydd Ymunwch â ni yn ein cenhadaeth i greu gwaddol o brofiadau dysgu cynhwysol sy’n cefnogi ac yn ysbrydoli addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd. Mae Adnodd wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol, cynhwysol a grymusol lle mae pawb yn perthyn. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig rhai o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a phobl anabl. Rydyn ni'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau a phrofiadau unigryw pob person, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau tegwch yn ein proses recriwtio ac ar draws ein sefydliad
Location: Wales, GB
Posted Date: 5/23/2025
Location: Wales, GB
Posted Date: 5/23/2025
Contact Information
Contact | Human Resources Yolk Recruitment Ltd |
---|